Addysg
Plant yw'r dyfodol. Nhw fydd gwarcheidwaid ein Daear fregus yn y dyfodol.
Mae SheWolf wedi ymrwymo i ymgysylltu plant a phobl ifanc â'r byd naturiol, drwy'r celfyddydau creadigol. Mae tystiolaeth helaeth bod iechyd cymdeithasol, seicolegol, academaidd a chorfforol plant a phobl ifanc yn cael ei effeithio'n gadarnhaol pan fydd ganddynt gysylltiad dyddiol â natur. Fodd bynnag, mae profiadau pobl o’r byd yn digwydd mwyfwy drwy rith-realiti, ac mae’n fwy heriol nag erioed i fwynhau mannau awyr agored yn ddiogel.
Drwy ymgysylltu â'r byd naturiol drwy brofiad ac mewn ffordd greadigol, mae SheWolf yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu ymdeimlad cynyddol o ymwybyddiaeth o'r byd o'u cwmpas. Dysgu drwy'r corff, gyda'r corff cyfan, mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn profiad amlsynhwyraidd sy'n eu galluogi i ddal gafael ar wybodaeth mewn ffordd fwy cofiadwy ac ystyrlon.
Wrth weithio yn yr awyr agored mae plant a phobl ifanc yn wynebu tiroedd ansicr, tirwedd ac amgylchedd sy'n newid yn gyson. Mae hyn yn eu herio mewn ffyrdd newydd. Wrth feddwl yn feirniadol, maent yn mynd ar daith drwy brofiad o ymholi ac adfyfyrio sy'n cynnwys datrys problemau a lliniaru risg. O ganlyniad, maent yn dod yn fwy hyderus ynddynt eu hunain a'u perthynas â'r byd o'u cwmpas.
Mae plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan yng ngwaith SheWolf yn aml yn adrodd am ymdeimlad o dawelwch, o ymlacio a heddwch, gan ddangos bod y gwaith hwn yn cynnig mwy o ymdeimlad o les yn ogystal â bod yn atgyfnerthiad cadarnhaol ar gyfer bywydau iach a hapus.