Gina Biggs - Cyfarwyddwr Artistig
Mae gofal wrth wraidd fy ngweithredoedd a'm hethos.
Mae fy ymarfer artistig yn deillio o ddau ddylanwad allweddol - hyfforddiant theatr ensemble ôl-Grotowskiaidd gyda Song of the Goat Theatre (Gwlad Pwyl) a symudiadau somatig naturiolaidd Helen Poynor yn yr amgylchedd fel y dylanwadwyd arnynt gan Anna Halprin a Surprato Suryodarmo. Yn fy ymarfer rwy'n caniatáu i'r dylanwadau hyn siarad â datblygiad yr ‘arall’, a'i gyfoethogi, wrth adeiladu ar y ddau i ddisgrifio'r hyn rwy'n ei wneud fel 'ymarfer ensemble amgylcheddol'.
Drwy symudiadau naturiolaidd, rwy'n adeiladu perthynas â'r amgylchedd (tirwedd) yn fwriadol fel pe bai'n aelod byw a gweithgar o'r ensemble. Ar yr un pryd, rwy’n tynnu ar dreftadaeth gerddorol gyfoethog theatr ensemble Dwyrain Ewrop i ddod â llais, sain a chân i ymarfer sydd wedi'i wreiddio'n fwy traddodiadol mewn symud. Mae hwn yn waith sy'n ymateb i safleoedd, sy'n hwyluso cyfleoedd i gwrdd â’r tirwedd, lle mae profiad personol a storïau hunangofiannol yn cyd-blethu â hanesion hanesyddol, cymdeithasol, daearegol a naturiol lle, i gynhyrchu a chyflwyno naratifau cyfoes mewn perfformiad.
Rwy’n gwneud hyn oherwydd fy mod, yn syml, yn ystyried bod meithrin perthynas â'r byd sy’n fwy na’r dynol yn bwysig. Mae ffyrdd o fodoli yn y byd sy’n llinellol, yn echdynnol, ac sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu, wedi’u hannog gan gyfalafiaeth neoryddfrydol, wedi ein gyrru tuag at ddinistrio amgylcheddol ar raddfa ddigynsail o enfawr. Yn yr un modd, mae'r unigoliaeth sy'n sail i hyn yn gadael y ddynol ryw’n ynysig ac yn unig - yn deisyf am gysylltiad a chymuned. O ganlyniad, rydyn ni’n byw drwy argyfwng iechyd meddwl byd-eang.
​
Mae fy ngwaith yn ymateb sy’n ymdrechu i gynyddu ein hymwybyddiaeth synhwyraidd o'r rhaniadau hyn a, thrwy gorff a llais, mae'n ceisio (ail)ddeffro cydberthynas fwy caredig - gyda'r hunan, gydag eraill a gyda’r amgylchedd. Bwriad fy mhroses o ymgysylltu â safle yw hyrwyddo’r gwaith (ail)gysylltu dwfn. Mae theatr ensemble Dwyrain Ewrop yn arfer sy'n cael ei gynnal bob amser mewn perthynas â phethau eraill. Yn y gwaith hwn, mae perthnasoedd tosturiol â phobl yn cael eu meithrin drwy gynyddu ymwybyddiaeth unigol ac ymwybyddiaeth synhwyraidd ar y cyd; sensitifrwydd cynyddol sy'n arwain at gysylltiadau dwfn iawn â phobl eraill. Rwy'n ymestyn y cysylltiadau tosturiol hyn yn fwriadol i gynnwys y byd sy’n fwy na’r dynol fel fy ensemble – yn cydnabod ein bod yn fodau rhyng-gysylltiedig.
Yr ethos hwn yn ymarferol yw fy ymrwymiad amgylcheddol at ofalu'n well am 'fywyd' ar y blaned hon, ond mae hefyd yn dod i'r amlwg mewn ymateb i'r angen i ofalu'n well amdanaf fy hun fel artist sy'n rheoli cyflwr poen cronig (Ffibromyalgia) sydd â heriau iechyd meddwl ynghlwm wrtho. Mewn diwylliannau gweithio cyfoes, mae syniadau am gynnydd, cynhyrchiant a modelau llwyddiant yn cael eu seilio’n aml ar batrymau amser llinellol, wedi eu rheoli’n gadarn, ac sy'n cael eu llunio'n bennaf o amgylch cyrff nad ydynt yn anabl. Yn groes i hyn, mae gan ffibromyalgia rythm llai rhagweladwy, rhythm sy’n gylchol, yn gyfnewidiol a digymell, gyda symptomau a fydd yn ymddangos ac yn cilio drwy gydol oes rhywun - tra bo poen yn parhau i fod yn gydymaith cyson ac anweledig. Mae effeithiau byw mewn byd sy'n mynnu'n gyson ein bod yn mynd yn gyflymach ac yn cynhyrchu mwy yn effeithio lawn cymaint ar fy mhrofiad byw ag y maen nhw ar faterion amgylcheddol. Yn sgil eu rhythmau a'u ffyrdd eu hunain o brofi amser, mae gan y corff a'r ddaear y potensial i ddioddef yn fawr o ganlyniad.
Rwy’n creu cysylltiadau dwfn yn fwriadol â'r Ddaear, nid yn unig am fod tystiolaeth gyson bod treulio amser mewn natur yn gwella lles corfforol a meddyliol, ond fel ymrwymiad personol i ddathlu'r grym bywyd a geir mewn ffyrdd eraill o fodoli yn y byd. Meithrin perthynas (gywir) â’r byd sy’n fwy na’r dynol, drwy ensemble, yw fy ffordd o ofalu. Mae'n golygu, hyd yn oed wrth weithio ar fy mhen fy hun (sef yr hyn a wnaf yn aml oherwydd fy nghyflwr) fy mod bob amser yn cael fy nal mewn ymdeimlad o gymuned. Mewn ymarfer ensemble amgylcheddol rydyn ni, y bobl a'r hyn sy’n fwy na’r dynol, yn creu gofod yn barhaus i dystio, dathlu a gweithredu er ffyniant ein bywydau ein gilydd.