
No Place Like (Flat) Holm
Taith drwy fythau a thirweddau hudolus
Ym Môr Hafren, gwta 3km oddi ar Drwyn Larnog (De Cymru), mae Ynys Echni - ynys gudd Caerdydd.  Mae ei glannau’n gyforiog gan ogofâu cudd, ac mae ei thirwedd yn cuddio straeon am oroesi yn wyneb anhawster.  Mae’n ficrocosm o hanes Cymru. Mae’r adeiladau, gweddillion gwarchodfeydd milwrol a hen ysbyty colera, yn atseinio straeon am golled, arwahanrwydd a galar; cenedl yn ei hamddiffyn ei hun rhag cael ei goresgyn.
Bellach yn atyniad i dwristiaid, yn noddfa adar ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae'r ynys yn ei hamddiffyn ei hun rhag bygythiadau’r newid yn yr hinsawdd. Gan fyw oddi ar y grid a dilyn troad y tymhorau drwy flwyddyn gron, ymunwch â ni wrth i ni ddilyn stori un fenyw y mae ei phrofiad o boen cronig yn tanio perthynas gariadus â'r ynys. Wedi'i hynysu ac yn daer am wrandawyr, dyma ddeuawd glos sy'n rhoi llais i boenau anweledig corff a daear.
Dewch gyda ni i ddarganfod Ynys Echni drwy gyfrwng gosodiad ffilm hudolus
Wedi ei greu gan SheWolf, cwmni sy’n rhoi llwyfan i anabledd ac sy’n dod â thirwedd yn fyw trwy berfformio, mae’r gosodiad hwn yn cyfleu cyfnod o flwyddyn ar yr ynys hon oddi ar arfordir Caerdydd - ynys sy’n wynebu bygythiad oherwydd cynnydd yn lefel y môr.
​
Mae’r darn o waith yn ymateb i’r lleoliad ac yn adlewyrchu straeon cudd tirwedd Ynys Echni gan ddod â nhw yn fyw - wedi ei gorchuddio gan flodau gwylltion yn tyfu trwy adfeilion sydd wedi eu gadael ar ôl gan drigolion dros ganrifoedd, a’u deffro yn nychymyg y cyhoedd.
​
Wedi ei hadrodd gan lais a chorff dynes unig mewn poen cronig, dros gyfnod o flwyddyn, dyma stori bersonol sy’n cyfuno’r corff bregus a daear wedi ei ddifrodi - taith i chwilio am dawelwch ym mhrydferthwch a chreulondeb Ynys Echni.

Arbrofion wedi'u ffilmio yn y dirwedd - Ymchwil a Datblygu (2020)
Y Tîm
Cyfarwyddwr Artistig a Pherfformiwr
Cyfarwyddwr Ffilm a Ffotograffiaeth
Cerddor
Cyfansoddwr
Mentor Artistig
Lydia Bassett
Cynhyrchydd
Gweithiwr Cymorth
Cynghorydd Sgrinddawns
Ymgynghorydd Dosbarthu
​
David Massey
Mentor Digidol
(Canolfan Mileniwm Cymru)
Alan Jones
Gweithiwr Cymorth
Cyn-filwr Morol Brenhinol/Arbenigwr Goroesi
Cynhyrchydd Podlediad (Radio Platfform)