Portffolio creadigol
Mae gwaith SheWolf yn dechrau pan fyddaf yn cyrraedd lle newydd. Caiff prosiectau eu geni o awydd i greu cysylltiad dyfnach â'r lleoedd lle byddaf i. Mae’n fwy na mapio daearyddiaeth ardal neu adnabod ardal, drwy’r llais a'r corff mae fy mhrosiectau’n (ail)fyw ac (ail)ddeffro tirweddau a’u storïau (yn fewnol ac yn allanol).
There's No Place Like (Flat) Holm - Circe's Call / Does Unlle yn Debyg i Enlli – Galwad Circe
Ymchwil a Datblygu
"Ers canrifoedd bum yn dawel, wedi fy anrheithio gan wyntoedd a glaw. O’r lan, bum yn fan anghysbell nad oedd modd ei gyrraedd. Nawr - wrth i lefelau'r môr godi - rwy'n siarad. Dyma fy straeon i, ond eich straeon chi hefyd. Ar fy nglannau fe chwilioch am Dduw, am ddulliau iachau, neu am farwolaeth esmwyth o leiaf. Gweddïoch a chanoch glodydd; caneuon o'ch cartref yn gysur mewn cyfnod o golera. Fi oedd eich ynys o haint ond nawr mae haint yn anrheithio’r tir mawr, a dim ond gwylio o bell y gallaf ei wneud. Clywais eich wylofain ar y gwynt, eich caneuon galar. Dyma fi’n rhannu fy rhai i".
​
Mae'r prosiect sgrinddawns hwn yn archwilio'r rhyng-gysylltiadau rhwng tirwedd, corff a llais gan ddod â threftadaeth ddaearegol, cymdeithasegol, hanesyddol a naturiol Ynys Echni (ym Môr Hafren) yn fyw. Daeth y prosiect i fod yn sgil dyfarniad Develop Your Creative Practice (Cyngor Celfyddydau Lloegr) i Georgina, a'i cefnogodd fel artist newydd-anabl i bontio ymarfer a oedd yn archwilio ffilm fel cyfrwng ar gyfer gwaith tirwedd a chorff. Ers adleoli o Loegr i Gymru (a COVID 19) symudodd y ffilmio i Drwyn Larnog ac Ynys Echni bell - a arferai fod yn ysbyty ynysu colera. Mae'r gwaith hwn yn archwilio ei phrofiadau o boen cronig a'r niwed y mae byw modern cyflym yn ei wneud i'r corff a'r ddaear. Fe'i mynegir yn y cam ymchwil a datblygu cynnar hwn fel 'Circe’s Call'.
​
Mae'r prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prif Gomisiwn Unlimited a’r gobaith yw ei ddatblygu'n ffilm fer. Wedi'i ffilmio'n dilyn y tymhorau, dros gyfnod blwyddyn gron, mae'r atsain greadigol hon o lais yr ynys (Circe) yn dod â hanes y dirwedd unigryw hon yn fyw, ac yn adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru mewn cyd-destun celf gyfoes arloesol.
Cavesong - Symphony in a Miner Key / Cân yr Ogof – Cywair y Glowyr
Ymchwil perfformiad
Roedd Cavesong Symphony in a Miner Key wedi'i lleoli yng Ngheudyllau Calchfaen Dudley. Gyda synau bywyd yr 21ain ganrif yn drwch, fe deithion ni o dan y ddaear i ddychwelyd i fyd mwy hynafol o sain. Drwy gyfathrebu â’r dirwedd, ac archwilio synau oedd yn eu tro wedi llenwi’r ceudyllau, fe ofynnon ni; Sut gall llais y dirwedd (sain) ddysgu rhywbeth i ni am y gorffennol a rannon ni ac esblygiad y ddynol ryw?
Wedi'u lleoli dan ddaear, mae'r ceudyllau’n ffinio, uwchben y ddaear, ystadau tai Wrens Nest a Priory. Mae cymundeb hanesyddol a chyfoes y tirweddau hyn, yr hen ochr yn ochr â'r modern, yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i’r cysylltiad dynol â lle. Gan fabwysiadu dull naturiol, daearyddol a hanesyddol i archwilio'r safle, buom yn archwilio'r term ecoleg acwstig yn ei ystyr ehangaf. Hynny yw, y berthynas drwy sain rhwng pobl a'r amgylchedd.
Ymchwiliodd y cydweithio arloesol hwn rhwng cantorion rhyngwladol ac artistiaid sain i ffyrdd newydd o gyfleu newid daearegol anferth drwy ddulliau dynol/artistig, gan gofnodi cylchoedd newid mewn tirwedd leol a bywyd dynol i greu symffoni ar gyfer Dudley yn yr 21ain ganrif.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Ymddiriedolaeth Syr Barry Jackson a Birmingham REP.
Wolf in the City /Â Blaidd yn y Ddinas
Artist Preswyl
Yn fynegiant o wylltineb, roedd Wolf in the City yn ystyried y cysylltiad rhwng tir, corff a’r gwybod greddfol. Yn mudo drwy dirwedd dramor (dinas Wroclaw, Gwlad Pwyl) mae blaidd-fenyw yn chwilio ar ei phen ei hun am ei lle yn y byd. Mae’n gwrando am alwad y gwybod greddfol, mae’n galw ar ddoethineb y corff benywaidd i ddod i gwrdd â hi wyneb yn wyneb. Wrth archwilio teimladau'r corff a'i ryngweithio â'r byd allanol, roedd y gwaith atgofus hwn yn adlewyrchu’r her o geisio dilyn y greddfau yn y byd sydd ohoni.
Gan weithio ar y cyd â'r ffotograffydd Arkadiusz Susidko, rhannodd y prosiect hwn, drwy ffilm, ffotograffiaeth a pherfformiad, ymchwil a gasglwyd yn ystod cyfnod Georgina fel Artist Preswyl yn Oriel ArtLOKAL (Wroclaw, Gwlad Pwyl). Fe'i hysbrydolwyd gan waith Clarissa Pinkola Estes, awdur Women Who Run With Wolves, cyfweliadau a wnaed gyda menywod eraill, teithiau ar droed drwy’r ddinas, cysylltiadau â'r corff, ac archwiliadau anatomegol yn canolbwyntio ar y pelfis fel sianel lle mae'r greddfol yn cael ei dderbyn a'i brofi – a chysylltu tirweddau allanol â bywyd emosiynol mewnol.
Yn dilyn y cyflwyniad gwreiddiol yn Oriel ArtLOKAL, Gwlad Pwyl, cyflwynwyd rhannau yn ddiweddarach yn Artists! Reveal Yourself! yn AE Harris, Birmingham. Mae'r prosiect bellach yn chwilio am gyfleoedd i groesawu Artistiaid Preswyl newydd, a dod o hyd i fleiddiaid newydd a dinasoedd newydd i'w harchwilio'n 'wyllt'. Gwahoddir ffotograffwyr/gwneuthurwyr ffilm rhyngwladol sy'n dymuno cydweithio.